Gweithio Tuag at y Marc Ansawdd - Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Gweithio Tuag at y Marc Ansawdd?
Mae meini prawf y cais am Farc Ansawdd yn nodi y dylai asiantaeth/AALl weithredu fel asiantaeth cyflenwi athrawon am o leiaf 12 mis cyn y gallant wneud cais am y Marc Ansawdd. Mae'r rhaglen Gweithio Tuag at y Marc Ansawdd ar gael i asiantaethau/AALlau sydd wedi bod yn cyflenwi athrawon dros dro yng Nghymru am lai na 12 mis ac sy'n bodloni'r meini prawf isod i wneud cais.
Mae'r term 'gweithio tuag at y Marc Ansawdd' yn gydnabyddiaeth ffurfiol bod asiantaeth/AALl yn ymrwymedig i fodloni safonau'r Marc Ansawdd, eu bod yn gweithio tuag atynt a'u bod yn cael eu monitro ac yn cael arweiniad gan REC.
Pam ei gyflwyno?
Ar gyfer statws Marc Ansawdd Llawn mae amod o 12 mis o fasnachu er mwyn galluogi busnesau i ddangos hyfywedd ariannol a chadw at arferion gorau yn barhaus. Drwy atal ymaelodaeth â'r cynllun yn gynnar, mae rhai asiantaethau, mewn rhai achosion, wedi cael eu cyfyngu o ran datblygiad eu busnes ac efallai nad yw'n bosibl iddynt gael gafael ar yr holl ganllawiau ar sut i weithredu o fewn fframwaith arfer gorau - gwybodaeth a gaiff ei chyflwyno drwy arweiniad a gohebiaeth reolaidd â'r REC sy'n digwydd drwy'r broses o wneud cais. Rydym am i asiantaethau/AALlau lwyddo o'r dechrau ac iddynt gael cyfle hefyd i gystadlu'n deg â busnesau sefydledig.
Felly, wrth gyflwyno cam dewisol ychwanegol i broses y Marc Ansawdd, bydd yn galluogi asiantaethau/AALlau i
- weithio'n ffurfiol tuag at safonau'r Marc Ansawdd, gydag arweiniad a chymorth gan REC
- cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon
- hyrwyddo'r ffaith eu bod wedi ymrwymo i'r cynllun ac y caiff eu hymdrechion eu monitro'n rheolaidd gan REC
Beth yw meini prawf gwneud cais a sut mae gwneud cais?
Gellir llwytho'r ffurflen gais i lawr o www.rec.uk.com/qualitymarkWales. Yn ychwanegol at hynny bydd yn ofynnol i chi gwblhau rhestr wirio cyn yr ymgynghoriaeth i alluogi REC i gadarnhau faint o gymorth y bydd ei angen arnoch.
Bydd angen i chi fodloni rhai meini prawf penodol cyn cael eich derbyn i'r rhaglen a bydd angen bodloni'r canlynol;-
- cyflenwi athrawon SAC, athrawon Cymwys o Dramor neu ANG i ysgolion yng Nghymru
- rydych wedi bod yn cyflenwi athrawon dros dro am lai na 12 mis
- tystiolaeth o hyfywedd ariannol, ar ffurf llythyr cyfrifydd, cyfrifon interim neu ddatganiad gwarantwr
- darparu manylion am unrhyw gollfarnau neu gamau eraill a gymerwyd o dan Ddeddf Asiantaeth Gyflogi (EAA) 1973 a Rheoliadau EAA 1976, manylion unrhyw reoliadau perthnasol a dorrwyd a manylion unrhyw ganfyddiadau anffafriol mewn Tribiwnlysoedd Cyflogaeth mewn cysylltiad â gweithwyr a gyflenwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Os nad oes gennych unrhyw beth i'w ddatgan, mae'n ofynnol i chi gyflwyno datganiad wedi'i lofnodi yn nodi hyn. Ni fydd datganiad o reidrwydd yn gwahardd cais a chaiff hyn ei asesu gan Bennaeth Polisi Cyfreithiol REC. SYLWER Os nad ydych yn datgan unrhyw ganfyddiadau nac achosion o dorri rheoliadau mae REC yn cadw'r hawl i dynnu eich cais am Gweithio Tuag at Farc Ansawdd neu'r Marc Ansawdd yn ôl
- cadarnhau nad yw'r Cyfarwyddwyr o dan orchymyn nac ymgymeriad anghymhwyso, ac nad ydynt yn fethdalwyr nac o dan unrhyw gyfyngiadau, gorchmynion neu orfodaethau methdalu.
- llofnodi addewid yn cadarnhau eich ymrwymiad i weithio tuag at Safonau'r Marc Ansawdd ac arfer gorau
- eisoes yn cynnal gweithdrefnau dilysu allweddol h.y. Swyddfa Cofnodion Troseddol, Rhestr 99 a chadarnhau Manylion Personol
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais ac wedi cael eich derbyn ar y rhaglen bydd REC yn cysylltu â chi i drafod y rhaglen ac yn gwneud apwyntiad i ymweld â chi.
Beth yw costau'r rhaglen?
Cewch gynnig dau fath o wasanaeth ymgynghori. Bydd y ddau ohonynt yn gyfle i rannu gwybodaeth naill ai ar sail un-wrth-un neu gyda'r holl swyddfa neu dîm - pa un bynnag sydd orau gennych chi. Er y bydd gennym agenda ar gyfer y diwrnod, 'eich diwrnod chi' ydyw yn ei hanfod felly gellir ei gynllunio i ddiwallu unrhyw anghenion penodol sydd gennych. Bydd yn gyfuniad o gyflwyniad ffurfiol ar y Marc Ansawdd,
wedi'i ddilyn gan ganllawiau esboniadol manwl o'r hyn a ddisgwylir ar gyfer pob safon. Byddwn yn adolygu eich prosesau ac yn awgrymu ffyrdd o'u gwella a'u datblygu a fydd yn unol â gofynion y Marc Ansawdd ac arfer gorau. Cofiwch nad gwasanaeth cychwyn busnes yw hwn a gellir cael gwybodaeth am gychwyn busnes yn http://www.rite.uk.com/.
Gwasanaeth Ymgynghori Llawn
Bydd hwn yn para diwrnod ac yn costio £750 a TAW a threuliau. Bydd yr ymgynghorydd yn:-
- Rhoi dadansoddiad manwl o bob safon a gaiff ei hategu gan nodiadau cyfarwyddyd esboniadol
- Arsylwi ar brosesau presennol yr asiantaeth a chynnig arweiniad ar arfer gorau a meysydd y bydd angen eu hadolygu er mwyn bodloni safonau'r Marc Ansawdd
- Cynnig polisïau enghreifftiol a dogfennau ategol ar bapur ac ar CD
Gwasanaeth Ymgynghori Safonol
Bydd hwn yn para diwrnod ac yn costio £550 a TAW a threuliau. Bydd yr ymgynghorydd yn:-
- Rhoi dadansoddiad manwl o bob safon Marc Ansawdd a gaiff ei hategu gan nodiadau cyfarwyddyd esboniadol
- Arsylwi ar brosesau presennol yr asiantaeth a chynnig arweiniad ar arfer gorau a meysydd y bydd angen eu hadolygu er mwyn bodloni safonau'r Marc Ansawdd
Beth fydd yn digwydd wedyn?
Fel gwasanaeth dilynol i'r gwasanaeth hwn anfonir cynllun gweithredu ac amserlen atoch a fydd yn nodi i ba raddau y disgwylir i chi gydymffurfio o fewn amser penodol; ynghyd â'r dystiolaeth y disgwylir i chi ei chyflwyno i ategu hyn. Er bod yr holl safonau yn bwysig, rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n ymwneud yn bennaf ag amddiffyn plant yn ogystal â'r rhai sy'n diogelu buddiannau eich busnes. Caiff y cynllun gweithredu ei rannu yn bedwar cyfnod - gydag arweiniad manwl i ategu pob un.
Cyfnod 1
Recriwtio, Dethol a Fetio
Swyddfa Cofnodion Troseddol
CACC
Rhestr 99
Cyfweliadau
Archwiliad Meddygol
Geirda
Cymwysterau
Caniatâd i weithio
Cydymffurfiaeth â chontract
Cydymffurfiaeth â rheoliadau o ran defnyddio athrawon a hyfforddwyd dramor
Cyfnod 2
Cydberthynas ag Athrawon ac ysgolion?
Darparu'r wybodaeth gywir am y lleoliad ar yr adeg gywir
Cofnodi camymddygiad
Polisi Cwynion
Cyfnod 3
Monitro perfformiad athro
Ymateb i Adborth
ANG ac Athrawon a Hyfforddwyd Dramor
Cyfnod 4
DPP
Pryd y gallaf gael statws Marc Ansawdd Llawn?
Unwaith y byddwch wedi bod yn masnachu am 12 mis bydd REC yn gallu derbyn eich cais am Farc Ansawdd. Drwy ddilyn y rhaglen byddwch yn raddol yn ychwanegu at eich cais ac yn debygol o fod mewn sefyllfa i'w gyflwyno i gael ei adolygu fwy neu lai ar unwaith. Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais bydd yn dilyn yr un broses asesu drwyadl â'r holl geisiadau eraill. Y fantais fydd gennych chi yw eich bod yn gwybod pa fath o wybodaeth a faint o
fanylion fydd eu hangen arnom, a thrwy fabwysiadu neu addasu ein polisïau enghreifftiol (os byddwch yn dewis y Gwasanaeth Ymgynghori Llawn) byddwch yn gwybod bod y rhain yn bodloni ein gofynion.
Bydd llwyddiant y cais yn canolbwyntio ar yr ymarfer samplu ffeiliau fydd yn digwydd yn ystod yr ymweliad asesu ar ddiwedd y broses o wneud cais. Felly hyd yn oed os bydd gennych yr holl ddogfennau cywir ac y byddwch yn cyflwyno'r dystiolaeth ysgrifenedig briodol, os na fyddwch yn dilyn gweithdrefnau ni fyddwn yn gallu dyfarnu'r Marc Ansawdd i chi nes y gallwch ein sicrhau bod eich cais yn adlewyrchiad gwirioneddol o'ch arferion gwaith dyddiol.
Pa mor hir y gallaf ddefnyddio statws Marc Ansawdd?
Byddem yn disgwyl i chi ennill statws Marc Ansawdd o fewn 3-6 mis ar ôl eich blwyddyn gyntaf o fod mewn busnes, a chaniateir i chi ddefnyddio'r statws Gweithio Tuag At Farc Ansawdd o fewn y cyfnod hwnnw fel dangosydd parhaus o'ch ymrwymiad i safonau; gellir ymestyn hwn os oes angen. Os na fyddwch yn ennill y Marc Ansawdd o fewn yr amserlen a gytunwyd gall olygu y caiff y statws 'Gweithio Tuag at Farc Ansawdd' ei dynnu oddi arnoch.
Os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch ag Angie Nicholls ar 020 7009 2129 neu Nigel Williams ar 07919 215 735

