Visit Homepage Visit Homepage

The Recruitment & Employment Confederation - The Voice of the Recruitment Industry



Cwestiynau Cyffredin: Cyffredinol

Beth yw'r Marc Ansawdd?

Lansiwyd y Marc Ansawdd ym mis Medi 2007 fel menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi (REC) er mwyn helpu i wella safonau i bawb yn y sector. Mae'r Marc Ansawdd yn gosod y safonau gofynnol ar gyfer asiantaethau ac AALlau mewn meysydd megis y modd y maent yn recriwtio ac yn cyfweld athrawon cyflenwi, y modd maent yn archwilio ac yn rheoli eu perfformiad a'r modd maent yn aros ar y blaen ar unrhyw newidiadau yn y sector addysgu.

Pwy all wneud cais?

Mae Busnesau Cyflogaeth ac AALlau sydd wedi bod yn masnachu ers dros 12 mis ac sy'n darparu athrawon cyflenwi dros dro yng Nghymru yn gymwys i wneud cais. Pan fo AALl ac asiantaeth yn gweithredu mewn partneriaeth, caiff y partneriaid eu hasesu yn erbyn y safonau a'r meini prawf sy'n berthnasol iddynt hwy.

Beth yw manteision y Marc Ansawdd?

Asiantaethau/AALlau

Bydd yn rhoi sicrwydd a chydnabyddiaeth swyddogol bod y safonau uchaf o ran arferion recriwtio yn cael eu cynnal. Bydd yn caniatáu i'r ysgolion sy'n gleientiaid i chi nodi asiantaethau/AALlau sydd wedi eu hachredu a'u hasesu ac sy'n perfformio yn unol â'r arferion gorau.

Ysgolion

Bydd yn rhoi mwy o hyder i ysgolion, rhieni a disgyblion bod y staff a gaiff eu cyflenwi gan ddeiliad Marc Ansawdd wedi bod drwy broses ddethol drwyadl sy'n cwmpasu'r archwiliadau perthnasol a'r gweithdrefnau recriwtio cywir. Mae hefyd yn cynnig sicrwydd bod rhwymedigaethau cyfreithiol wedi cael eu bodloni yn ogystal sicrhau y caiff pob athro fynd drwy broses DPP.

Athrawon

Bydd yr athrawon yn hyderus eu bod wedi dewis gwasanaeth achrededig sydd ag enw da a fydd yn ychwanegu gwerth at eu profiad fel athrawon cyflenwi. Mae hefyd yn cynnig sicrwydd bod rhwymedigaethau cyfreithiol wedi cael eu bodloni yn ogystal â sicrhau y caiff pob athro fynd drwy broses DPP.

Beth y dylem eu cynnwys yn ein cais?

Mae'n bwysig eich bod yn darllen y dogfennau canlynol gan eu bod yn rhoi manylion am y math o wybodaeth rydym yn disgwyl ei gweld i ategu eich cais. 

  •  Llyfryn Marc Ansawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Nodiadau cyfarwyddyd REC

Os hoffech drafod y broses o wneud cais, cysylltwch â Nigel Williams ar 07919 215 735

 Sut y dylem gyflwyno ein cais?

Chi biau'r dewis. Cyflwynir y mwyafrif o geisiadau mewn ffolderi modrwy a chaiff yr adran ar gyfer pob safon ei rhoi ar wahân gyda chyfeiriad unigol ati. Gan fod cysylltiad rhwng nifer o'r safonau, mae'n debygol y bydd peth ailadrodd.

Allwn ni ddefnyddio trydydd parti i baratoi ein cais?

Mae rhai asiantaethau yn dewis defnyddio trydydd parti i lunio eu cais am y Marc Ansawdd. Pan fo'n amlwg bod dogfennaeth safonol wedi cael ei defnyddio rydym yn gofyn am sicrwydd ychwanegol bod y ddogfennaeth a gyflwynwyd yn adlewyrchiad cywir o arferion gwaith cyfredol a'i bod yn rhan o'r gweithdrefnau presennol a'r ffordd y mae'r asiantaeth neu'r Awdurdod Lleol yn gweithio o ddydd i ddydd. Nid ydym yn cymeradwyo defnyddio unrhyw ymgynghorwyr allanol.

Os bydd asiantaethau yn mabwysiadu gweithdrefnau newydd, disgwylir iddynt dreialu'r systemau hyn er mwyn sicrhau y gellir eu gweithredu a'u bod yn cydweddu â'r prosesau presennol. Os caiff gwybodaeth anwir neu anghywir ei chyflwyno, mae REC yn cadw'r hawl i atal cais.

Faint o gymorth y gallwn ddisgwyl ei gael gan REC?

Gall y penderfyniad i barhau â'ch cais fod yn her ynddo'i hun. Mae angen dyfalbarhad ac amynedd a dealltwriaeth lawn o'r hyn sy'n ofynnol o'r broses Marc Ansawdd. Gall fod yn broses gymhleth iawn ac mae'n ofynnol i REC helpu asiantaethau ac AALlau i sicrhau cydymffurfiaeth lawn. Rydym yn fwy na bodlon cynnig cyngor ac arweiniad drwy gydol y broses o asesu.

Gwasanaeth Ymgynghori

Mae REC bellach yn cynnig gwasanaeth ymgynghori eang, o ran gwasanaeth y telir amdano. Cynigir hyn cyn cyflwyno cais a'r bwriad yw cynorthwyo asiantaethau ac AALlau i fodloni'r safonau gofynnol. Ewch i www.rec.uk.com/qualitymarkWales am wybodaeth bellach.

Beth yw'r gost?

Codir tâl o £350 a TAW a threuliau am bob cais. Dylid talu'r swm o £350 a TAW gyda'ch cais; cewch anfoneb am y treuliau unwaith y bydd yr ymweliad asesu drosodd. Caiff asiantaethau sy'n gweithredu o fwy nag un gangen eu hysbysu o'r costau ychwanegol, os ydynt yn berthnasol, ar ddechrau'r broses o asesu.

Pa mor hir y bydd y broses o wneud cais yn ei chymryd?

Bydd hyn yn dibynnu ar faint o fanylion y byddwch yn eu rhoi ar y dechrau. Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â phob safon mae proses arolygu drylwyr ar waith, wedi ei chynnal gan broses fanwl o adrodd yn ôl i ymgeiswyr ar eithriadau. Mae REC yn mynnu cryn fanylion a dealltwriaeth o'r gweithgareddau er mwyn bod yn ddigon siŵr bod y dystiolaeth ysgrifenedig a ddarparwyd yn cydymffurfio â'r safonau gofynno. Felly gorau po fwyaf o fanylion a dogfennau ategol a gyflwynwch ar y cychwyn.

Pryd y bydd yr ymweliad asesu yn digwydd?

Bydd yr asesiad yn digwydd yn ystod cam olaf y broses, unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais cyflawn. Ystyr cais cyflawn yw popeth y mae ei angen ar REC i asesu cais yn ei gyfanrwydd a gall gymryd rhwng 3 mis a 2 flynedd i ddarparu'r wybodaeth hon, yn dibynnu ar yr amser y gall yr ymgeisydd ei fuddsoddi. Drwy gynnal asesiad yn ystod y cam hwn bydd yn cynnig sicrwydd ychwanegol bod y cais a gyflwynwyd a'r newidiadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cymhwyso a bod y staff yn llwyr ymwybodol o'u cyfrifoldebau. Bydd hefyd yn cynorthwyo i nodi asiantaethau na wnaethant ddarparu gwybodaeth gywir yn eu cais gwreiddiol ac sydd wedi parhau i fethu â bodloni safonau'r Marc Ansawdd yn gyson.

Pa mor hir y bydd yr ymweliad asesu yn ei gymryd?

Bydd un diwrnod yn ddigon ar gyfer pob cangen. Byddwn eisoes yn hollol gyfarwydd â chais unrhyw asiantaeth/AALl a bydd yr ymweliad yn galluogi'r asesydd i ganolbwyntio ar samplu ffeiliau a chasglu tystiolaeth sy'n dangos cydymffurfiaeth, neu fel arall.

Beth fydd yr asesiad yn ei olygu?

Byddwn eisoes yn hollol gyfarwydd â chais unrhyw asiantaeth/AALl a bydd yr ymweliad yn galluogi'r asesydd i ganolbwyntio ar samplu ffeiliau a chasglu tystiolaeth sy'n dangos cydymffurfiaeth, neu fel arall.

Mae samplu ffeiliau yn un o agweddau allweddol y broses asesu a bydd hyn yn rhoi tystiolaeth o gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau a gyflwynwyd a’r safonau Marc Ansawdd yn y pen draw. Yn ystod y broses o samplo bydd angen i'r asesydd allu defnyddio eich cronfa ddata a'ch cofnodion ysgrifenedig ynghyd â rhestr o athrawon cyflenwi sydd wedi gweithio drwy eich asiantaeth/AALl yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Cofiwch fod gan yr aseswyr wybodaeth eang ac amrywiol o gymwysiadau cronfeydd data ac unwaith y bydd wedi cael cyflwyniad cychwynnol i'ch system, gallwch fod yn hyderus y bydd yn gallu dod o hyd i wybodaeth berthnasol heb gymorth parhaus.

Yn ystod yr asesiad, caiff materion yr asesiad eu trafod yn ôl yr angen gyda'r staff o dan sylw. Naill ai yn ystod yr asesiad neu ar y diwedd, pa un bynnag sydd orau, bydd yr asesydd yn eich hysbysu o unrhyw faterion ynghyd ag argymhellion o ran camau cywiro neu wella systemau presennol. Bydd hefyd  yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i'r canfyddiadau a chael unrhyw sylwadau neu gadarnhad ar faterion sy'n ymwneud â chywirdeb ffeithiol.

Beth fydd yn digwydd ar ôl yr ymweliad asesu?

Er mwyn llunio barn gyffredinol, bydd yr aseswyr yn ystyried i ba raddau y mae systemau a gweithdrefnau yn cydymffurfio â safonau Marc Ansawdd ac yn adlewyrchu'r cais. Mae'n debygol y cewch eich hysbysu o'r canlyniad ar ddiwedd yr ymweliad

Llwyddiannus

Os bydd yr holl safonau yn cael eu bodloni cewch eich llongyfarch y diwrnod hwnnw. Yna byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau dyfarniad y Marc Ansawdd, yn amodol ar lofnodi addewid. Unwaith y bydd yr addewid wedi'i lofnodi, ei ddychwelyd a'i dderbyn gennym ni byddwch yn ddeiliad Marc Ansawdd swyddogol a chewch dystysgrif, CD Rom o'r logo a chaiff eich enw ei ychwanegu at ein gwefan.

Bydd unrhyw arweiniad neu argymhellion a gaiff eu cynnig fel arfer yn disgrifio gwelliannau i weithdrefnau presennol neu'n mynd i'r afael â phroblemau mwy cyffredin. Mae'n bosibl y bydd angen trefnu apwyntiad dilynol i'ch gweld a bydd hyn yn rhoi sicrwydd ychwanegol i chi bod gweithdrefnau yn cael eu dilyn.

Aflwyddiannus

Pan na fydd arferion gweithrediadol yn adlewyrchu'r prosesau ysgrifenedig, i ba raddau nad ydych yn cydymffurfio a bydd REC naill ai'n:

Gwneud argymhellion, a ategir gan arweiniad, cynllun gweithredu ac amserlen i gynorthwyo i sicrhau cydymffurfiaeth Disgwylir y caiff y rhan fwyaf o'r argymhellion sy'n ymwneud â materion allweddol eu gweithredu o fewn 2 wythnos; mae'n bosibl y bydd angen asesiad pellach i sicrhau bod awgrymiadau y cytunwyd arnynt wedi cael eu gweithredu.

Neu

Atal cais er mwyn rhoi mwy o amser i fabwysiadu gweithdrefnau ysgrifenedig llawn ac asesu effaith y rhain bob dydd er mwyn sicrhau y gellir eu gweithredu. Bydd hyd y cyfnod hwn o atal y cais yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich diffyg cydymffurfiaeth

Cymeradwyaeth

"Roedd ennill y Marc Ansawdd yn werth y byd i Michaela a minnau. Ni yw Cyfarwyddwyr Aspire People, sef Ymgynghoriaeth Recriwtio Addysg brysur iawn, a'n gwasanaeth o safon yw un o'r prif bethau sy'nein gwahaniaethu oddi wrth ein cystadleuwyr".

Louise Breheny, Cyfarwyddwr, Aspire People

 

"Hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am eich help a'ch cymorth, yn ystod yr ymweliad Gwasanaeth Ymgynghori cychwynnol a thrwy gydol yr holl broses o wneud cais am Farc Ansawdd. Roedd yn galonogol iawn i ni wybod eich bod yn gefn i ni bob amser, ac ar gael i'n helpu gyda'n holl ymholiadau"

Stephanie Boulton a Lesley Robinson, Cyfarwyddwyr, First Class Supply and Training

 

Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag Angie a Lucy ac yn benodol gael eu cefnogaeth drwy gydol ein cais am y Marc Ansawdd. Mae wedi bod yn broses sydd wedi cymryd 6 mis i ni a thrwy gydol yr amser hwn, mae'r tîm wedi bod yn barod bob amser i ateb ein holl gwestiynau a rhoi cyngor i ni, cymaint felly, fel ein bod yn gwbl hyderus yn yr hyn a wnawn fel asiantaeth a disgwyliadau'r Marc Ansawdd.

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y Marc Ansawdd ac roedd y gwaith a wnaethom ar ei gyfer yn galed, ond rwy'n falch o ddweud bod yr archwiliad wedi bod yn rhwydd ond yn drylwyr.

Mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth i'n busnes ac i'n enw da. Diolch Angie a Lucy.

Jane Scott DipRP, Rheolwr Gyfarwyddwr , Key Stage Supply Ltd

 

Drwy gynnig cydnabyddiaeth swyddogol i ni ac i'n cwsmeriaid, mae'n dangos ein bod yn gwella safonau. Mae'r dyfarniad yn gydnabyddiaeth annibynnol o safon ein gweithdrefnau a'n hagwedd. Yn y pen draw, bydd yn rhoi'r hyder mwyaf i'r ysgolion ac yn eu sicrhau bod ein gwasanaeth o'r safon uchaf bosibl.

Debbie Allinson, Cyfarwyddwr, Capita Education

 

Mae'r Marc Ansawdd yn rhoi gwarant gydnabyddedig i'n cleientiaid ein bod yn gwneud 'yr hyn a ddywedwn a wnawn'. Mae hyn yn golygu ein bod yn ddarparwr sy'n ddymunol o ran y sector addysg ac yn ddarparwyr y gellir ymddiried ynddo hefyd.

Mae paratoi ar ei gyfer yn gyfle gwerthfawr i ni ystyried, trafod a gwella gweithdrefnau ein Cwmni. Roedd yn galonogol i'r tîm weld cymaint o'r gweithdrefnau angenrheidiol oedd eisoes ar waith, gan roi hyder i bobl yn ein hymdrechion.

Charlotte Rafferty, Cyfarwyddwr, Solo Education Ltd

Roedd yr archwiliad ar gyfer y marc ansawdd yn broses frawychus i ni yn Rochdale and Oldham Supply Agency, gan mai dyma'r tro cyntaf i ni ganiatáu i rywun archwilio ein prosesau yn annibynnol. Fodd bynnag, rwyf o'r farn ei fod yn arf defnyddiol sydd wedi ein galluogi i werthuso'r gwasanaeth a ddarparwn ar gyfer yr ysgolion sy'n gleientiaid i ni.

Rochdale and Oldham Supply Agency (ROSA)