Marc Ansawdd Recrwito Diogel Cymru
Mae athrawon cyflenwi yn gwneud cyfraniad pwysig at redeg ysgolion yn drefnus ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod hyn ac am sicrhau y cânt eu recriwtio a'u rheoli'n dda, er mwyn caniatáu iddynt roi eu gorau i ysgolion.
Mae Marc Ansawdd Cymru wedi cael ei lansio, fel menter ar y cyd rhwng yr Adran Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a'r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi i helpu i godi safonau i bawb yn y sector. Mae'r Marc Ansawdd yn gosod safonau i asiantaethau ac Awdurdodau Addysg Lleol i'w cyrraedd mewn meysydd fel y ffordd y maent yn recriwtio ac yn cyfweld ag athrawon cyflenwi, a'r ffordd y maent yn gwirio a'n rheoli eu perfformiad a'r ffordd y maent yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yn y sector addysgu.
Mae cynnal safonau ym maes recriwtio addysg yn hanfodol ac mae buddiannau'r Marc Ansawdd i Awdurdodau Addysg Lleol, asiantaethau, athrawon cyflenwi a'r ysgolion y maent yn eu gwasanaethu yn sylweddol. Mae ysgolion ac athrawon yn haeddu asiantaethau o ansawdd uchel a bydd y cynllun hwn yn helpu ysgolion ac athrawon i fod yn fwy hyderus am yr asiantaethau y maent yn eu defnyddio. Bydd yn rhoi mwy o hyder i ysgolion, rhieni a disgyblion i wybod y caiff staff a gyflenwir drwy asiantaethau/awdurdodau addysg lleol eu recriwtio'n briodol. Ar gyfer y darparwyr cyflenwi bydd yn rhoi sicrwydd a chydnabyddiaeth swyddogol y cedwir at y safonau uchaf o arferion recriwtio; a bydd athrawon yn hyderus eu bod wedi dewis gwasanaeth achrededig a chyfrifol a fydd yn ychwanegu gwerth at eu profiad fel athrawon cyflenwi.
Amcanion
- Prif amcanion y Marc Ansawdd yw:
- Cydnabod asiantaethau cyflenwi sector preifat ac Awdurdodau Addysg Lleol a all ddangos eu bod yn cyrraedd safonau o arfer da o ran rheoli a darparu athrawon cyflenwi ar gyfer ysgolion
- Galluogi ysgolion ac athrawon dros dro i deimlo'n hyderus ynglÅ·n ag ansawdd yr asiantaethau a'r Awdurdodau Addysg Lleol y maent yn ymdrin â hwy
- Cydnabod y cyfraniadau a wneir gan athrawon cyflenwi, asiantaethau ac Awdurdodau Addysg Lleol wrth gefnogi ysgolion
Y Broses
Mae'r holl asiantaethau ac Awdurdodau Addysg Lleol (a fu'n masnachu’n weithredol am flwyddyn o leiaf) sy'n cyflenwi ysgolion ag athrawon dros dro yng Nghymru yn gymwys i wneud cais. Gall asiantaethau a fu'n masnachu ers llai na blwyddyn wneud cais am Weithio Tuag at y Marc Ansawdd. Bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno tystiolaeth fanwl i ddangos y gallant gyrraedd y safonau gofynnol ar ffurf dogfen bolisi, prosesau mewnol a gweithdrefnau a dogfennau i ategu hyn. Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â phob safon mae proses arolygu drylwyr ar waith, sy'n cynnwys archwiliad, wedi'i ategu gan adroddiadau manwl iawn ar eithriadau i ymgeiswyr. Mae angen i'r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi weld lefel uchel o fanylder a dealltwriaeth o'r ffordd y maent yn gweithredu er mwyn bod yn ddigon sicr bod y dystiolaeth ysgrifenedig a ddarperir yn cydymffurfio â'r safonau gofynnol
Gwybodaeth Ychwanegol
Os hoffech wneud cais, llwythwch y ffurflen Gais, y Daflen Marc Ansawdd a'r nodiadau canllaw i lawr. Fel arall, cysylltwch â Nigel Williams yn y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi a fydd yn trefnu bod copïau caled yn cael eu hanfon atoch
Mae’r tudalennau hyn ar gael yn Saesneg hefyd
Nigel Williams
Tîm Marc Ansawdd
Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi
Blwch Swyddfa'r Post 263
Penybont ar Ogwr
CF31 9GD
Cymru
Ffon 07919 215735 Dydd Llun - dydd Mawrth yn unig
e bost Nigel.williams@rec.uk.com
Related Documents
- Cwestiynau Cyffredin Ail-asesiad DOC file - 2061K
- Cwestiynau Cyffredin am y Gwasanaeth Ymgynghori DOC file - 2060K
- Cwestiynau Cyffredin Cyffredinol DOC file - 2074K
- Cwestiynau Cyffredin Gweithio tuag at y Marc Ansawdd DOC file - 2067K
- Ffurflen Daliadau'r Marc Ansawdd DOC file - 2064K
- QMW -Costau'r Marc Ansawdd DOC file - 2056K
- Gweithdrefn Gwyno'r Marc Ansawdd DOC file - 2080K
- QMW Ffurflen Gais y Marc Ansawdd DOC file - 2074K
- QMW Nodiadau Canllaw DOC file - 2108K
- QWM Gweithio tuag at Ffurflen Gais y Marc Ansawdd DOC file - 2072K

